Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Tachwedd 2019
Amser:
08.30 -
08.58
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Charlotte Thomas, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ateb Cwestiynau Llafar ar ran y Prif Weinidog, sy'n sâl.
Dywedodd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd datganiad llafar ychwanegol heddiw gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar TATA Steel.
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais i ohirio Dadl Fer Suzy Davies o ddydd Mercher yr wythnos hon i'r dydd Mercher cyntaf ym mis Ionawr, a chytunwyd y bydd y bleidlais ar gyfer y tymor nesaf, pan gaiff ei chynnal ym mis Rhagfyr, yn dechrau gydag ail wythnos y tymor.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2019
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Mynediad at Fancio (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl Fer Vikki Howells (Cwm Cynon) (30 munud) – wedi'i gohirio o 13 Tachwedd
Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 27 Tachwedd:
NNDM7191
Lynne Neagle (Torfaen)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw un o bob pedwar o bobl sy'n cael diagnosis o ganser y pancreas yn y DU yn goroesi'r clefyd y tu hwnt i fis ac nad yw tri o bob pedwar yn goroesi y tu hwnt i flwyddyn, llawer ohonynt am nad oeddent yn cael eu trin yn ddigon cyflym.
2. Yn cydnabod bod tua 500 o achosion newydd o ganserau'r pancreas yng Nghymru bob blwyddyn, a bod tua 508 o bobl wedi cael diagnosis o ganser y pancreas yn 2015, ac y bu farw tua 451 o bobl o'r clefyd yn yr un flwyddyn.
3. Yn cydnabod mai canser y pancreas yw'r canser cyffredin mwyaf angheuol gyda phrognosis truenus sydd prin wedi newid yn ystod y 45 mlynedd diwethaf.
4. Yn croesawu mis ymwybyddiaeth canser y pancreas (Tachwedd) a'r gwaith y mae Pancreatic Cancer UK yn ei wneud i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r canser sydd â'r nifer isaf o ran goroesi, a'r cyflymaf o ran lladd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella cyfraddau goroesi ar gyfer pobl â chanser y pancreas yng Nghymru drwy:
a) triniaeth gyflymach, drwy ddysgu gan fodelau llawdriniaeth llwybr carlam yn Lloegr sydd wedi dangos canlyniadau addawol;
b) diagnosis cynharach, drwy ddysgu o Ganolfannau Diagnostig Cyflym sy'n cael eu cyflwyno yn Lloegr a'r treialon gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg; ac
c) cefnogaeth gyfannol, trwy gefnogaeth ddeietegol a maethol amserol i alluogi cleifion i oddef triniaeth yn well.
Cefnogir gan:
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Vikki Howells (Cwm Cynon)
Ystyriodd y Rheolwyr Busnes y cais gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i ymestyn craffu Cyfnod 1 i 14 wythnos, a newid canlyniadol i ddyddiad cau Cyfnod 2.
Cefnogodd Darren Millar, Rhun ap Iorwerth a Caroline Jones gynnig y pwyllgor i ymestyn yr amserlen. Roedd y Trefnydd yn gwrthwynebu i unrhyw newid gan y byddai'n dileu'r siawns o hyblygrwydd yn ddiweddarach, gan gynnwys ymestyn Cyfnodau 2 a 3 pe bai angen, a'r posibilrwydd o Gyfnod Adrodd. Yng ngoleuni'r gwahanol safbwyntiau a fynegwyd, cytunodd y Pwyllgor Busnes i archwilio gyda'r Pwyllgor y posibilrwydd o gyfaddawd nad oedd yn golygu symud dyddiad cau cyfnod 2, hy cyfnod 1 hirach a chyfnod 2 byrrach.
Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi sôn y bydd yn cyflwyno Bil Tai yn ymwneud â throi allan heb fai yn gynnar yn 2020, y disgwylir iddo gael ei drosglwyddo i'r Pwyllgor. Awgrymodd y Rheolwyr Busnes y gellid trosglwyddo'r Bil hwn i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn lle'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau pe bai hynny o gymorth i leddfu'r pwysau ar y Pwyllgor.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddyddiad cau o dydd Iau 5 Rhagfyr i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Cyllid adrodd ar y Gorchymyn drafft.
Penderfynodd y Pwyllgor y gallai aelodau'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu adael y Cyfarfod Llawn ar 27 Tachwedd i deithio i Wrecsam dim ond ar ôl i'r Amser Pleidleisio gael ei gynnal.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod oedi i Gyfnod 3 y Bil Plant (Diddymu Amddiffyn Cosb Resymol) (Cymru) oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod cyn yr etholiad yn San Steffan.
Cwestiynodd y Rheolwyr Busnes am gysondeb o ran dull y llywodraeth mewn perthynas â'r cyfnod cyn yr etholiad, a dyfynnwyd cyhoeddiadau a wnaed trwy atebion i gwestiynau, yn ogystal ag mewn busnes a drefnwyd.
Nododd y Rheolwyr Busnes mai mater i'r Trefnydd yw Amserlen Busnes y Llywodraeth. Cytunodd y Trefnydd i hysbysu cyd-Weinidogion o'r pryderon a godwyd.